1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dros hanner canrif.  

1.2. Credwn fod presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru a bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i’w chlywed a’i gweld. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, y radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad. 

1.3. Mae S4C, yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, yn unigryw yng ngwledydd Prydain gan iddi gael ei sefydlu a'i diogelu o ganlyniad i ymgyrchoedd torfol gan bobl Cymru. Nid sianel gyffredin mohoni. Mae gan y sianel ran bwysig iawn i'w chwarae yn nhwf yr iaith a'i defnydd.

1.4. Rydym wrthi'n ymgynghori ar bapur trafod gyda'n cynigion ar gyfer datblygu S4C a datganoli grymoedd dros ddarlledu yn eu cyfanrwydd i Gymru. Mae'r papur i'w weld yma:

http://cymdeithas.cymru/dogfen/darlledu-yng-nghymru-ii-papur-trafod

1.5. Mae nifer o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthod talu eu trwydded deledu ar hyn o bryd fel rhan o ymgyrch dros ddatganoli darlledu i Gymru.

2. Crynodeb

2.1. Crynhown ein prif gynigion a sylwadau fel y ganlyn:

     i.        Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i'r Cynulliad, sef grym rheoleiddio'r holl sbectrwm darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded;

   ii.        Dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianel Gymraeg fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan y byddai hynny'n cynnig sicrwydd ariannol hirdymor i'r darlledwr;

  iii.        Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar gorfforaethau sy'n gwerthu hysbysebion, megis Google a Facebook, er mwyn cyllido darlledu cyhoeddus yn y Gymraeg;

  iv.        Dylid newid Awdurdod S4C i fod yn "Awdurdod Darlledu Cymru" a fyddai'n rheoleiddio'r cyfryngau yng Nghymru yn lle Ofcom. Dylai aelodau'r Awdurdod newydd gael eu penodi drwy broses ddemocrataidd yng Nghymru yn hytrach na gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn Llundain.

    v.        Credwn y dylai fod gan yr Awdurdod Darlledu Cymru newydd (Awdurdod S4C gynt)  swyddogaethau a phwerau:

i.             i normaleiddio'r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol, o radio masnachol a theledu lleol i Netflix, YouTube ac yn y blaen;

ii.           i gryfhau'r cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg

  vi.        O gymharu'r cyfryngau yng Nghymru â rhai Catalwnia a Gwlad y Basg, gwelwn ddiffyg twf brawychus y cyfryngau Cymraeg a Chymreig

 vii.        Credwn, o dan gyfundrefn ddatganoledig, y dylai cylch gwaith Awdurdod Darlledu Cymru gynnwys sefydlu S4C newydd, y gellir ei galw yn ‘Sianel Cymru’. Byddai ganddi gylch gwaith llawer ehangach a fyddai’n cynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein. Er mwyn creu gwasanaethau cyfatebol i Wlad y Basg a Chatalwnia, credwn felly y dylai’r S4C newydd, neu Sianel Cymru, fod yn gyfrifol am y canlynol:

a.            tair sianel deledu Gymraeg

b.            tair gorsaf radio Gymraeg

c.            o leiaf ddau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol

ch.     cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy'n cynhyrchu

cynnwys Cymraeg

3.Cwestiynau'r Ymchwiliad

3.1. Ariannu'r Sianel

3.1.1. Mae S4C wedi dioddef toriadau o dros 40% i’w chyllid mewn termau real ers 2010; ac mae Llywodraeth San Steffan wedi paratoi'r ffordd i'r BBC draflyncu S4C. Erbyn hyn, er bod maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn 2015 yn dweud y byddent yn “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C”, maen nhw nawr yn bygwth toriadau pellach.

3.1.2. Dywedwyd mai'r dirwasgiad a ddechreuodd yn 2008 oedd y rheswm dros doriadau i gyllid y darlledwr. Credwn felly y dylai cyllideb y darlledwr ddychwelyd nawr i'r un lefel â'r hyn oedd cyn y dirwasgiad.

3.1.3. Gwrthwynebwn ariannu S4C drwy'r ffi drwydded a chredwn y dylid dychwelyd i fodel grant. Fodd bynnag, os penderfynir y dylid parhau i ariannu drwy'r ffi drwydded, credwn y dylai rheolaeth dros y ffi drwydded gael ei datganoli i Gymru gyda chyfran uniongyrchol yn mynd at ddarlledwr Cymraeg sy'n annibynnol ar y Llywodraeth a darlledwyr eraill.

3.1.4. Credwn y dylid ail-sefydlu fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg mewn statud, gyda'r cyllid yn cynyddu yn unol â chwyddiant. Mae angen llawer mwy o sicrwydd ariannol hirdymor ar y Sianel Gymrae na darlledwyr eraill, oherwydd ei statws fel darlledwr mewn iaith leiafrifoledig.

3.1.5. Dylid ychwanegu at yr adnoddau sydd ar gael i’r darlledwr drwy ddilyn esiampl gwledydd eraill  a chodi ardoll ar ddarlledwyr preifat ynghyd â chwmnïau sy’n rhannu cynnwys megis Facebook a Google.

Ardoll

3.1.8. Mae darlledwyr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain wedi dioddef toriadau mawr yn eu cyllid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, ac er gwaethaf y dirwasgiad, mae darlledwyr preifat, megis British Sky Broadcasting (Sky) ac ITV, wedi gweld cynnydd mawr yn eu helw. Mae llwyfannau ar-lein, megis Google a Facebook, hefyd yn parhau i weld cynnydd mawr yn eu trosiant blynyddol, ac yn defnyddio strwythurau busnes cymhleth er mwyn osgoi talu trethi llawn i‘r wladwriaeth. Gallwch weld rhagor o fanylion am ein cynigion yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/ariannu-darlledu-cymraeg-treth-newydd-i-ariannu-darparydd-amlgyfryngol-cymraeg-newydd 

3.2. Cylch Gwaith Statudol

3.2.1. Tra bu cynnydd aruthrol yn nifer y llwyfannau Saesneg eu hiaith, ni bu twf cyfatebol yn y gwasanaethau Cymraeg eu hiaith. Wedi sefydlu S4C, roedd un sianel deledu ac un orsaf radio Gymraeg: yng Ngwlad y Basg mae chwe sianel deledu a phum gorsaf radio; ac yng Nghatalwnia mae chwe sianel deledu a phedair gorsaf radio Gatalaneg.  

3.2.2. Mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac mae'n parhau i fethu – gan ffafrio cwmnïau mawrion sy'n cwtogi'n ddifrifol ar allbwn Cymraeg a lleol ar radio masnachol a thrwy hynny yn tanseilio gorsafoedd radio cymunedol.

3.2.3. Yn lle Ofcom, credwn y dylid gweddnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn ‘Awdurdod Darlledu Cymru’ a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom. Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime er enghraifft), a byddai ganddo rymoedd i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.

3.2.4. Byddai gan yr Awdurdod ddyletswydd dros hyrwyddo cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg. Er mwyn sicrhau plwraliaeth ac ystod o leisiau amgen, mae’n bosib y byddai gan yr awdurdod reolaeth dros ‘gronfa cynnwys cymunedol’ a hynny i hyrwyddo cyfryngau a llwyfannau lleol er mwyn creu system ddarlledu o’r gwreiddiau i fyny. Yn ychwanegol at hyn, dylid newid model S4C er mwyn iddi allu cynhyrchu gwasanaeth newyddion ei hun neu gomisiynu cwmni(au) Cymraeg i wneud hynny.

3.2.5. O dan gyfundrefn ddatganoledig, credwn y dylai 'Awdurdod Darlledu Cymru' sefydlu S4C newydd, y gellir ei galw yn ‘Sianel Cymru’. Byddai ganddi gylch gwaith llawer ehangach a fyddai’n cynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein. Er mwyn creu gwasanaethau cyfatebol i Wlad y Basg a Chatalwnia, credwn felly y dylai’r S4C newydd, neu Sianel Cymru, fod yn gyfrifol am y canlynol:

dair sianel deledu Gymraeg

tair gorsaf radio Gymraeg

o leiaf ddau wasanaeth newyddion aml-lwyfan Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol

cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sy'n cynhyrchu cynnwys Cymraeg

3.2.6. Byddai nifer o’r gwasanaethau hyn yn rhai heb hysbysebion a byddent yn targedu gwahanol grwpiau demograffig a grwpiau diddordeb.

3.2.7. Byddai cylch gorchwyl Awdurdod Darlledu Cymru yn esgor ar dwf o ran cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg. Byddai’n diogelu ac yn ehangu radio a theledu cymunedol Cymraeg, gan ffafrio’r darpariaethau hynny yn lle cyfundrefn Ofcom sydd wedi arwain at gwmnïau mawrion yn cwtogi ar gynnwys Cymraeg a Chymreig.

3.2.8. Byddai Awdurdod Darlledu Cymru hefyd yn sefydlu endid darlledu dwyieithog newydd. Byddai’r endid newydd yn gyfrifol am:

un sianel deledu ddwyieithog Gymreig

un orsaf radio ddwyieithog Gymreig

un gwasanaeth dwyieithog ar-lein Cymreig

3.3. Datganoli Darlledu

3.3.1. Mae 60% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli darlledu i Gymru, yn ôl arolwg barn a gynhaliwyd gan Gomisiwn Silk a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain. Yn ogystal, cefnogodd Comisiwn Silk ddatganoli rhan o gyllideb S4C i Lywodraeth Cymru, ond dyw Llywodraeth Prydain ddim wedi gweithredu ar yr argymhelliad.  

3.3.2. Credwn y dylid datganoli grym dros ddarlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru, nid S4C yn unig. Drwy ddatganoli’r cyfrifoldeb i Gymru, byddai modd troi Awdurdod S4C yn “Awdurdod Darlledu Cymru”, sef rheoleiddiwr ar gyfer yr holl sbectrwm, yn naturiol. Byddai’n gyfrifol am ehangu a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol.

3.3.3. O dan gyfundrefn ddatganoledig, credwn y dylai S4C, neu Sianel Cymru, fod yn atebol i Awdurdod Darlledu Cymru.

3.4. Annibyniaeth ar y BBC

3.4.1. Credwn y dylai fod gan S4C annibyniaeth ariannol, strategol a golygyddol lwyr. Pryderwn yn fawr bod y BBC, yn araf deg, yn traflyncu S4C ac yn ei dinistrio fel darlledwr annibynnol. Credwn fod y cynllun i symud darlledu S4C i bencadlys newydd y BBC yng nghanol Caerdydd yn enghraifft o hyn. Ac mae BBC yn cadw'r hawl i dynnu arian oddi ar S4C neu osod amodau ar arian a ddaw i S4C drwy'r ffi drwydded. Nid yw'n bartneriaeth gytbwys, ond yn draflynciad graddol.

3.4.2. Pryderwn ymhellach am y monopoli sydd gan y BBC dros newyddion Cymraeg cenedlaethol. Fel sy'n cael ei amlinellu uchod mae angen rhoi'r hawl i S4C sefydlu gwasanaeth newyddion annibynnol er mwyn sicrhau plwraliaeth.

3.4.3. Er mwyn sicrhau annibyniaeth go iawn, dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol a ffynonellau ariannu sy'n gwbl annibynnol ar y BBC. Os oes rhaid ariannu S4C drwy'r ffi drwydded, dylai cyfran fynd yn uniongyrchol i'r darlledwr yn hytrach na gadael i'r BBC gael unrhyw ddylanwad dros ddefnydd yr arian.

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg


 

Atodiad

Cyflwyniad

Cynhelir adolygiad o S4C eleni ac mae’n deg dweud bod hyn yn cynrychioli cyfle prin iawn i edrych yn fanwl ar fanylion y diwydiant darlledu yng Nghymru. Yn ogystal, mae Gweinidog Swyddfa Cymru wedi datgan bod hyn yn gyfle i ystyried datganoli darlledu, gan ddweud bod trafodaeth o’r fath yn ‘anochel’ wrth gynnal yr adolygiad.

Galwodd llyfryn polisi y Gymdeithas ‘Darlledu yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym 1970, am sefydlu tonfeddi radio Cymraeg a sianel deledu Cymraeg (Atodiad 1), ac mi gymrodd dros ddegawd i gyflawni'r ddau nod. Yn ogystal, bu sefydlu sianel deledu Gymreig a gorsaf radio Gymreig, cyfrwng Saesneg ymysg rhai o'n galwadau yn 1970.

Ond, dechreuodd yr ymgyrchu dros y galwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ gydag ‘awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru’. Gydag adolygiad S4C, credwn fod hi’n amserol ail-ymweld â’r cysyniadau hyn, gan hefyd ystyried pa gamau ychwanegol sydd eu hangen o ystyried y camau mawrion sydd wedi cael eu cymryd o ran technoleg yn ddiweddar.

Nawr bod Senedd ddatganoledig gyda ni yng Nghymru, ceir cyfle i greu cyfraith gwlad gall fod o fudd uniongyrchol i’r Gymraeg, i’r economi ac i ddemocratiaeth.

Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn. Mae’r maes wedi ei ddatganoli yng ngwledydd datganoledig eraill; Gwlad y Basg a Chatalonia ymysg eraill. Ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.

Darganfu pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, bod 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Felly, mae gennym gefnogaeth y cyhoedd. Argymhellodd y Comisiwn ddatganoli i Gymru grant y Llywodraeth ar gyfer S4C yn unig; er i nifer o sefydliadau eraill ofyn iddynt fynd yn bellach. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y Comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru’r ychydig filiynau o bunnau’n unig sy’n mynd o drethdalwyr i S4C.

Mae nifer o gyrff eraill a sefydliadau yn y maes yn galw ar i Lywodraeth Prydain fynd yn bellach hefyd, ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu. Dywedodd Yr Athro Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwraig y BBC, ar Radio Cymru’n ddiweddar: “byddwn i’n falch o weld rhagor o atebolrwydd ... dwi o’r farn mai job Cymdeithas yr Iaith .... ydy pwyso, pwyso am rywbeth ... ac wedyn job y gwasanaeth sifil, y Llywodraeth [ac eraill] … yw ceisio’r ffordd orau o wneud hynna ... rwy’n siwr bod yn bosib i wneud rhagor…

Mae gennym gyfle drwy’r adolygiad yma i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru drwy ddatganoli’r maes i Gymru.


 

Darlledu yng Nghymru

Pe bai Cymru'n gorfod sefydlu system darlledu o'r newydd fory, beth fydden ni'n gorfod gwneud? Byddai angen sefydlu cyrff rheoleiddio a thechnolegol, gan gynnwys systemau i reoleiddio cynnwys ac i ddosrannu tonfeddi. Byddai angen strwythurau datblygu, rheoli, cynhyrchu a darlledu teledu Cymraeg, yn ogystal â theledu dwyieithog. Byddai hefyd angen systemau cyfatebol ar gyfer radio Cymraeg a dwyieithog, a hyn oll o fewn gweledigaeth ac egwyddor darlledu gyhoeddus. Byddai angen strwythurau a ffynonellau cyllido wrth gwrs. Byddai angen ystyried adeiladwaith a rhwydwaith darlledu cenedlaethol a lleol, gan gynnwys rôl darlledu fasnachol. Ymhlith pryderon eraill, nid oes digon o ddarlledu yng Nghymru sy’n annibynnol o’r BBC ar hyn o bryd (does dim newyddion teledu amgen yn y Gymraeg, er enghraifft).

Wrth gwrs, gan nad ydym yn sôn am sefydlu system darlledu o’r newydd, mae angen dyfeisio proses esblygol sydd yn trawsnewid y sefyllfa bresennol.

Mae’n bwysig nodi bod gan Ogledd yr Iwerddon eisoes sbectrwm sy’n cael ei rhannu rhwng dwy gyfundrefn - yr un Brydeinig ac un y Weriniaeth; gallai hynny osod cynsail defnyddiol yng nghyd-destun Cymru.


 

Cyd-destun rhyngwladol

Dengys Gwlad y Basg a Chatalwnia, ymysg gwledydd eraill, ei fod yn gwbl bosib datganoli darlledu o fewn gwladwriaeth. Rhoddir isod trosolwg o sianeli a gorsafoedd yn y gwledydd hynny, gan gynnwys manylion am iaith, cynnwys a chynulleidfaoedd y gwahanol blatfformau, ynghyd ag arsylwadau ar strwythurau a ffynhonellau cyllid y cyrff sydd yn gyfrifol amdanynt.

Euskal Irrati Telebista (EiTB), Gwlad y Basg

Sefydlwyd Euskal Irrati Telebista (EiTB) yng Ngwlad y Basg ym 1982, yr un flwyddyn a lansiwyd S4C yng Nghymru. Bryd hynny, lansiwyd un sianel deledu ac un orsaf radio. Erbyn hyn, mae EiTB yn gyfrifol am:

-        6 sianel deledu (ETB 1, ETB 2, Etb 3, ETB 4, ETB Sat, Canal Vasco)

-        5 orsaf radio (Euskadi Irratia, Radio Euskadi, Euskadi Gazeta, EiTB Irratia, Radio Vitoria)

Yn ogystal â sianeli a gorsafoedd sydd yn targedu cynulleidfaoedd cyffredinol (yn debyg i S4C a Radio Cymru efallai), gwelwn fod gwasanaethau penodol ar gyfer plant a phobl ifanc hefyd (Atodiad 2). Trwy’r rhain, gwasanaethir tua 700,000 o siaradwyr Basgeg y wladwriaeth a chymunedau ar wasgar yn Ewrop ac America Ladin. Mae platfformau EiTB yn darlledu yn y Fasgeg, y Sbaeneg ac yn ddwyieithog. Daw 86% o gyllid EiTB yn uniongyrchol o lywodraeth Gwlad y Basg, gyda’r gweddill yn cael ei chodi trwy hysbysebion. Mae gwerth nodi hefyd bod cwota 50% ar gyfer allbwn Basgeg ar radio masnachol yn ogystal.


 

Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCRTV), Catalwnia

Yn dilyn deddfwriaeth gan lywodraeth Catalwnia, sefydlwyd Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCRTV) ym 1983. Fe’i lansiwyd gydag un sianel deledu ac un orsaf radio. Heddiw, mae’r gorfforaeth yn gyfrifol am:

-        6 sianel deledu (TV3, El33, TV3CAT, 3/24, Super3, Esport3)

-        4 gorsaf radio (Catalunya Ràdio, Catalunya Música, Catalunya Informació, iCat FM)

Prif iaith pob un ohonynt yw’r Gatalaneg. Yn debyg i EiTB, ceir sianel a gorsaf radio yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc (Atodiad 3). Noder iCat FM yn benodol, sef gwasanaeth amlblatfform sy’n gwneud defnydd helaeth o’r rhyngrwyd a thechnoleg newydd. Er bod CCRTV yn gwasanaethu cynulleidfa gymharol fwy na’r rheini yng Ngwlad y Basg ac yng Nghymru (gyda thua 4 miliwn o siaradwyr brodorol Catalaneg), mae yna elfennau strwythurol i’w system darlledu datganoledig sydd yn haeddu ystyriaeth.

Yn wahanol i Wlad y Basg, rhannwyd cyfrifoldebau dros deledu a radio rhwng dau gorff CCRTV, sef Televisió de Catalunya a Catalunya Ràdio, gydag adrannau eraill o CCRTV yn gyfrifol am gynorthwyo’r rhain trwy farchnata, cynllunio, datblygu a thechnoleg. Ceir hefyd CCRTV Interactiva sydd yn creu a dosbarthu cynnwys rhyngweithiol, aml-gyfrwng ar gyfer yr adrannau uchod. Daw dros hanner (52%) o gyllid y gorfforaeth (h.y. CCRTV) trwy gyllideb cyffredinol llywodraeth Catalwnia, a’r gweddill o hysbysebion, nawdd, nwyddau a gwerthiant cynhyrchiadau gwreiddiol.

Yn y ddwy achos uchod, gwelwn fod systemau darlledu, a lansiwyd yn yr un cyfnod ag S4C, wedi ehangu’n sylweddol dros y degawdau, tra bod y Gymraeg yn parhau i gael ei chyfyngu i un sianel ac un orsaf yn unig.

Credwn fod Cymru yn haeddu yr un fath o ddarpariaeth â’r hyn sy’n bodoli yng ngwladwriaethau eraill y byd.


 

Camau tuag at ddatganoli

Wrth ystyried y broses ddeddfwriaethol, y man cychwyn fydd dileu'r eithriad ym Mesur Cymru sy'n cadw'r pwerau dros ddatganoli yn ôl. Er na fydd hyn o reidrwydd yn newid pethau dros nos, byddai gan Senedd Cymru yr hawl i ddeddfu yn y maes darlledu. Mae’r broses dechnegol yn fwy cymhleth o ran dosrannu tonfeddi, addasu strwythurau cynhyrchu a chreu system cyllido (e.e. ffi drwydded Gymreig) ymhlith pethau eraill. Awgrymir datganoli fesul cam, a hynny gan ddechrau gyda rheoleiddio.

Felly, mae blaenoriaethau tymor byr o ran datganoli yn cynnwys:

1.   Grymoedd i ddeddfu dros reoleiddio yr holl sbectrwm darlledu ac Awdurdod S4C er mwyn galluogi sefydlu cyfundrefn rheoleiddio i Gymru;

2.   Ffi’r drwydded a grymoedd i godi trethi er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus;

3.   Grymoedd dros radio masnachol, cymunedol a theledu lleol

Dylid nodi y bydd datganoli grym deddfwriaethol yn y meysydd hyn yn golygu y gall Senedd ddatganoledig Cymru benderfynu, fel sy’n bosibl ym mhob maes datganoledig, cadw’r gyfundrefn ddarlledu’n union fel ag y mae yn y lle cyntaf. Byddai datganoli felly yn caniatáu newidiadau esblygol i’r system.


 

Barn y Gymdeithas

Mae Ofcom wedi methu â gwasanaethu Cymru a’r Gymraeg, ac yn parhau i fethu. Dylid trawsnewid ac ehangu Awdurdod S4C i fod yn ‘Awdurdod Darlledu Cymru’ gyda dyletswydd statudol, a fydd yn gyfrifol am reoleiddio darlledu yng Nghymru, yn lle Ofcom. Nid Awdurdod S4C y byddai felly.

Byddai cylch gwaith, dyletswyddau a grymoedd y corff newydd yn cynnwys hyrwyddo a normaleiddio’r Gymraeg ar bob llwyfan cyfryngol (gan gynnwys Netflix ac Amazon Prime er enghraifft), gyda grymoedd i osod cwotâu ar radio masnachol a theledu lleol o ran y ganran o’u darlledu sydd yn Gymraeg.

Byddai gan yr Awdurdod ddyletswydd dros hyrwyddo cyfryngau cymunedol, ac yn benodol rhai Cymraeg. Er mwyn sicrhau plwraliaeth ac ystod o leisiau amgen, mae’n bosib y bydd gan yr awdurdod reolaeth dros ‘gronfa cynnwys cymunedol’ a hynny i hyrwyddo cyfryngau a phlatfformau lleol er mwyn creu system darlledu o’r gwreiddiau i fyny. Yn ychwanegol at hyn, dylid newid model S4C er mwyn iddi allu cynhyrchu gwasanaeth newyddion eu hunain neu gomisiynu cwmni(au) Cymraeg i wneud hynny.


 

Buddion y gyfundrefn ddatganoledig ar gyfer Cymru a’r Gymraeg

O dan gyfundrefn ddatganoledig, byddai Awdurdod Darlledu Cymru yn sefydlu S4C newydd, y gellir ei chalw yn ‘Sianel Cymru’ y byddai ganddi gylch gwaith llawer ehangach a fyddai’n cynnwys radio, teledu a gwasanaethau ar-lein. Er mwyn creu gwasanaethau cyfatebol i wlad y Basg a Chatalwnia, credwn felly y dylai’r S4C newydd, neu Sianel Cymru, fod yn gyfrifol am:

-     3 sianel deledu Gymraeg - SC1, SC2, SC3

-     3 gorsaf radio Gymraeg - RC1, RC2, RC3

-     o leiaf 2 wasanaeth newyddion aml-blatfform Cymraeg a gynhyrchir yn fewnol - Newyddion Cymru

-     Cynnig cefnogaeth i fentrau cyfryngau lleol a chymunedol sydd yn cynhyrchu cynnwys Cymraeg

Byddai nifer o’r gwasanaethau hyn yn rhai heb hysbysebion ac yn targedu gwahanol grwpiau demograffeg a grwpiau diddordeb.

Byddai cylch gorchwyl Awdurdod Darlledu i Gymru yn esgor ar dwf yn y cyfryngau cymunedol a chynnwys digidol Cymraeg. Byddai’n diogelu ac ehangu radio a theledu cymunedol Cymraeg, gan ffafrio’r darpariaethau hynny yn lle cyfundrefn Ofcom sydd wedi arwain at gwmnïau mawrion yn cwtogi ar gynnwys Cymraeg a Chymreig.

Byddai Awdurdod Darlledu Cymru hefyd yn sefydlu endid darlledu dwyieithog newydd. Byddai’r endid newydd yn gyfrifol am:

-     1 sianel deledu ddwyieithog Gymreig

-     1 orsaf radio ddwyieithog Gymreig

-     1 gwasanaeth dwyieithog ar-lein Cymreig


 

Diagram - Strwythur rheoleiddio newydd posib

https://lh4.googleusercontent.com/FAMMQneSF04qO9r1drlxjk9UNgpmoB1MdEHTcTThORzKTnhzbRVcRXkoYjEJXkCi2pUILk1Kl3SW4r-DZSuAzAdV17tc5A8zbleus2QVE-wsoYTV2C2yDZponnT6DjrTqPptIDfw

Mae’n bwysig cofio y byddai pobl Cymru yn parhau i gael mynediad at gyfryngau Saesneg o weddill ynysoedd Prydain a’r byd yn ogystal â’r darlledu cynhenid Cymraeg a dwyieithog ychwanegol.


 

Ariannu’r gyfundrefn

Yn 2015, cyhoeddodd y Gymdeithas bapur ynglŷn ag ariannu darlledu Cymraeg, gan amlinellu opsiynau amgen ar gyfer ariannu darlledu cyhoeddus, gwasanaeth amlblatfform newydd, ac S4C yn benodol. Ymddengys ei fod yn bosib ystyried sawl un o’r argymhellion hynny yng nghyd-destun ehangach datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd.

1)   Ariannu’n uniongyrchol gan y Cynulliad

2)   Datganoli’r ffi drwydded

3)   Ardoll ar wasanaethau, rhyngrwyd, cwmnïau telethrebu, hysbysebion a/neu’r sector preifat

Os byddai corfforaeth darlledu Cymraeg yn goruchwylio teledu a radio masnachol, yn ogystal â sianeli a gorsafoedd darlledu cyhoeddus, byddai modd codi swm sylweddol ychwanegol wrth werthu gofod hysbysebu ar y platfformau hynny. Fel yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia, mae’n debyg mai cyfuniad o ffynonellau ariannol buasai'r datrysiad orau.

Ariannu’n uniongyrchol gan y cynulliad

Yn debyg i’r systemau Basgeg a Chatalaneg, byddai cyfran statudol o gyllid corfforaeth darlledu Cymraeg datganoledig yn dod yn uniongyrchol o Lywodraeth Cymru. Yn 2014, awgrymodd Comisiwn Silk y dylai'r cyfrifoldeb dros ariannu S4C symud o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru yn ogystal â newidiadau strwythurol eraill. Fodd bynnag, yn ddelfrydol, ac er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a’r gallu yng Nghymru i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu, byddai grymoedd ariannu a deddfu dros y cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dim ond datganoli llawn fyddai’n caniatáu i bobl Cymru lunio cyfundrefn sy’n addas iddyn nhw.

Datganoli ffi’r drwydded

Buasai sicrhau ffi drwydded Gymreig yng Nghymru yn gallu talu tuag at ariannu goruchwyliwr darlledu o’r fath y mae’r wlad yn ei haeddu; er mwyn pennu pwy fuasai’n berchen ar fastiau a sut caent eu defnyddio, a gosod rheoleiddio annibynnol ar y sector yng Nghymru er mwyn penderfynu faint o newyddion, rhaglenni a cherddoriaeth Cymraeg a Chymreig buasai ar gael -  gan hefyd rhoi mwy o sicrwydd i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru ac i S4C yn benodol. Rydym yn sylweddoli y byddai angen cyfnod o amser er mwyn sefydlu cyfundrefn ar wahân i Gymru. Ond gyda ffi’r drwydded ar lefel Brydeinig o dan fygythiad, byddai’n synhwyrol i Lywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil ar gostau ac ymarferoldeb sefydlu’r gyfundrefn Gymreig.

Ardoll ar wasanaethau, rhyngrwyd, cwmnïau telethrebu, hysbysebion a/neu’r sector preifat

Mae mwyfwy o gefnogaeth i'r syniad o gasglu ardoll. Ym mis Rhagfyr 2016, ac yng nghyd-destun gweithgareddau busnes Facebook a Google, cyhoeddodd yr academydd blaenllaw Leighton Andrews ei fod yn “gwbl gefnfnogol o’r syniad bod angen camau adfer ar lefel genedlaethol, megis ardoll ar refeniw gyfryngwyr rhyngrwyd”. Yn ein papur ‘Ariannu Darlledu Cymraeg’, dangoswyd bod trosiant ac elw cwmnïau mawrion, megis TalkTalk, EE, BSkyB a Google, wedi parhau i gynyddu’n sylweddol er gwaethaf y dirwasgiad ac yn wyneb toriadau enfawr i ddarlledu cyhoeddus. Dangoswyd hefyd y byddai ardoll o 1% yn unig ar drosiant y cwmnïau hyn yn unig (yn seiliedig ar ffigyrau 2013) yn codi dros £150 miliwn yn flynyddol ar lefel Brydeinig. Trwy ymestyn yr ardoll i gwmnïau mawrion eraill, megis Facebook, Vodafone a Virgin Media, gellir codi swm sylweddol er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus ar draws gwledydd Prydain gyda chyfran deg ohono yn mynd yn uniongyrchol at gorfforaeth darlledu Cymraeg a gwasanaethau presennol a newydd.

Ymysg materion eraill, bydd angen dileu’r eithriad i ddeddfu ar ddarlledu sydd ym Mesur Cymru. Yn ogystal â phwerau dros ffi’r drwydded, bydd angen ymestyn yr hawl bresennol sydd gan Senedd Cymru i godi trethi newydd er mwyn iddyn nhw ystyried codi ardoll newydd ar ddarlledwyr preifat ac eraill.


 

Casgliadau

Credwn fod datganoli darlledu yn cynnig cyfle am gyfnod newydd i’r Gymraeg ynghyd â bywiogi ein democratiaeth a’n holl gymunedau yng Nghymru. Drwy ddatganoli’r cyfrifoldeb i Gymru, byddai modd troi Awdurdod S4C yn “Awdurdod Darlledu i Gymru” sef rheoleiddiwr ar gyfer yr holl sbectrwm yn ddatblygiad naturiol a fyddai’n galluogi ehangu a normaleiddio’r Gymraeg ar bob platfform.

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ionawr 2017
#DatganoliDarlledu

Atodiad 1:

Llyfryn Polisi ‘Darlledu yng Nghymru’ (1970)

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

https://lh3.googleusercontent.com/Nzqx63azqOgVRCfIXVWoPcqCUswn0Z-edUMrUx47EA2fNa3SvluZ2J4gsnU1ZYYo3A855GTilz1vZPSBi4rRz-NKYVFUaliiNuKVrxH4dFXNeDk4NqvZ4LY2ptl3L_f-kaTg33yu

Atodiad 2:

Gwlad y Basg - Sianeli a Gorsafoedd Euskal Irrati Telebista (EiTB)

Teledu

Lansiwyd

Iaith

Cynnwys

Cynulleidfa

ETB 1

1983

Basgeg

newyddion, adloniant, rhaglenni dogfen, chwaraeon, rhaglenni pobl ifanc, rhaglenni plant, ffilmiau

Cyffredinol

ETB 2

1986

Sbaeneg

newyddion, adloniant, rhaglenni dogfen, chwaraeon, rhaglenni pobl ifanc, rhaglenni plant, ffilmiau

Cyffredinol

ETB 3

2008

Basgeg

Adloniant

Plant/Pobl Ifanc

ETB 4

2014

Dwyieithog

Chwaraeon

Cyffredinol

ETB Sat

 

Dwyieithog

Diwylliant Basgeg

Sbaen ac Ewrop

Canal Vasco

 

Dwyieithog

Diwylliant Basgeg

America Ladin

Radio

 

 

 

 

Euskadi Irratia

1982

Basgeg

Newyddion/

radio siarad

Cyffredinol

Radio Euskadi

 

Sbaeneg

Newyddion/

radio siarad

Cyffredinol

Euskadi Gazeta

 

Basgeg

Cerddoriaeth

Pobl ifanc

EiTB Irratia

 

Dwyieithog

Diwylliant/

cerddoriaeth

Cyffredinol

Radio Vitoria

 

Sbaeneg

Newyddion/radio siarad

Cyffredinol

 


 

Atodiad 3:

Catalwnia - Sianeli a Gorsafoedd

Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals (CCRTV)

Teledu

(Televisió de Catalunya)

Lansiwyd

Iaith

Cynnwys

Cynulleidfa

TV3/TV3 HD

1983
Lansiwyd yr HD yn 2007

Catalaneg

newyddion, adloniant, dramau, chwaraeon, ffilmiau

Cyffredinol

El 33

1988

Catalaneg

rhaglenni dogfen, diwylliant

Cyffredinol

TV3CAT

1995

Catalaneg

Cyfuniad o gynnwys TV3 ac El 33

Rhyngwladol

3/24

2003

Catalaneg

Newyddion
24-awr y dydd

Cyffredinol

Super3

2009

Catalaneg

Adloniant

Plant/Pobl Ifanc

Esport 3

2010

Catalaneg

Chwaraeon

Cyffredinol

Radio

(Catalunya Ràdio)

 

 

 

 

Catalunya Ràdio

1983

Catalaneg

 Cyffredinol
24-awr y dydd

Cyffredinol

Catalunya Música

1987

Catalaneg

Cerddoriaeth
24-awr y dydd

Cyffredinol

Catalunya Informació

1992

Catalaneg

Newyddion
24-awr y dydd

Cyffredinol

iCat FM

2006

Catalaneg

Pobl ifanc
Amlblatfform - ar y we

Pobl ifanc

 


 

ATODIAD 4

Cwestiynau Ymgynghorol:

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu

A. Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o S4C eleni; mewn datganiad y llynedd am gyllid y darlledwr, dywedon nhw:

"Er mwyn sicrhau bod gan S4C ddyfodol cryf a chynaliadwy i barhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf, mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu cynnal adolygiad cynhwysfawr yn 2017. Bydd yr adolygiad yn edrych ar gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C i sicrhau bod y darlledwr yn dal i allu bodloni anghenion cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg yn y dyfodol a buddsoddi mewn rhaglenni uchel-ansawdd. Bydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol drwy’r broses adolygu."

Mae Gweinidogion y Llywodraeth hefyd yn dweud bod hyn yn gyfle i drafod datganoli darlledu gan ddatgan bod trafodaeth am ddatganoli'n 'anochel' yn rhan o'r adolygiad.   

Tra bod cannoedd o sianeli teledu Saesneg a gorsafoedd radio Saesneg, un sianel deledu ac un orsaf radio yn y Gymraeg yn unig sydd gennym.  

Rhwng 2010 a 2015, gwnaed toriadau o 40% i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain. Arbedodd y Llywodraeth 93% o’u grant i’r unig sianel Gymraeg. Ceision nhw wneud toriadau pellach y llynedd ond bu’n rhaid iddynt newid eu meddwl.

Dywedodd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2015 y byddent yn "diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C."

B. Cwestiynau i sbarduno trafodaeth mewn grwpiau bach:

1. Y cyd-destun

Pa fath o gyfryngau sydd eu hangen ar Gymru?

Beth yw’r prif gryfderau gyda darlledu yng Nghymru?

Beth yw’r prif broblemau gyda darlledu yng Nghymru?

2. Datganoli

A ddylid datganoli darlledu i Gymru?  

Os felly, beth yw’r pethau pwysicaf i’w datganoli?  

Beth fyddai’r pethau pwysicaf i’w datganoli’n gyntaf?  

3. Swyddogaethau S4C

Beth ddylai fod rôl S4C? A ddylai fe fod yn gyfrifol am fwy o sianeli teledu? Os felly faint? Ar gyfer pwy?

A ddylai S4C fel corff cynnal gorsaf(oedd) radio? Os felly faint? Ar gyfer pwy?

A ddylai S4C fod yn gyfrifol am ddarlledu yn ieithoedd eraill yn ogystal â'r Gymraeg?

Beth ddylai S4C ei wneud ar blatfformau digidol?

Beth ydych chi'n meddwl am y cynigion penodol hyn?

1)   Ehangu cylch gwaith a chynyddu cyllideb S4C er mwyn iddi lwyddo a hynny ar ragor o blatfformau, er enghraifft drwy sefydlu ail orsaf radio.

2)   Newid Awdurdod S4C o fod yn gorff un sianel i fod yn 'Awdurdod Darlledu i Gymru' sydd gyda'r grym i reoleiddio sawl maes, gan gynnwys radio masnachol a theledu lleol.

Byddai hynny'n golygu bod modd gosod cwotâu ar y darparwyr preifat hyn i ddarparu fan leiaf hanner eu hallbwn yn Gymraeg.

3)   Dylai fod gan S4C yr hawl, y capasiti a'r adnoddau i gynhyrchu cynnwys ei hun, er enghraifft gwasanaeth newyddion, ac i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth.